Llythyr agored Hafal i’r Prif Weinidog newydd

Mae Prif Weithredwr yr elusen iechyd meddwl Gymreig, Hafal, Alun Thomas, wedi ysgrifennu llythyr at Brif Weinidog newydd  Cymru, Mark Drakeford, a hynny ar ran 1600 o Aelodau Hafal.  

Mae’r llythyr yn croesawu Mr Drakeford i’w rôl newydd ac yn galw am bwyslais o’r newydd ar y dull Gofal Iechyd Darbodus a hyrwyddwyd gan Mr Drakeford pan oedd yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Darllenwch y llythyr yn llawn yma:

Annwyl Brif Weinidog

Llongyfarchiadau twymgalon ar eich apwyntiad gan Hafal a’n aelodaeth dorfol o bobl ag afiechyd meddwl, eu teuluoedd a gofalwyr eraill. Rydym yn dymuno pob lwc i chi yn eich rôl newydd ac yn addo eich cefnogi yn eich ymdrechion i wella bywydau’r rhai hynny sydd yn dibynnu ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Rydych wedi bod yn gyfaill i Hafal ac, yn fwy pwysig, i bawb sydd wedi eu heffeithio gan afiechyd meddwl. Rydym yn cofio eich cyfnod fel Gweinidog Iechyd, ac yn benodol eich diddordeb yn siarad yn uniongyrchol gyda phobl sydd wedi eu heffeithio gan afiechyd meddwl, er mwyn canfod yr hyn sydd angen arnynt. Rydym yn gwerthfawrogi eich parodrwydd i wrando ac mae hyn yn cynnig gobaith i ni ar gyfer y dyfodol. 

Hoffwn ofyn am eich amser i ystyried dau fater sydd yn bwysig iawn i ni? Mae’r ddau yn cynnig y posibilrwydd o wneud defnydd gwell o adnoddau presennol yn hytrach na’n mynnu mwy …

Gofal Iechyd Darbodus

Rydym yn eich parchu’n benodol fel arlunydd Gofal Iechyd Darbodus – y dull synnwyr cyffredin a chost-effeithiol hwnnw tuag at ddefnyddio adnoddau yn fwy effeithiol er mwyn helpu pobl. Yn ogystal â chyd-gynhyrchu a gwasanaethau cydradd ar draws Cymru, roeddech wedi adnabod yr angen “i ofalu am y rhai hynny sydd â’r anghenion iechyd mwyaf yn gyntaf” ac i “wneud yr hyn sydd angen yn unig a dim creu niwed”.

Mae Gofal Iechyd Darbodus dal gennym, yn rhan annatod o Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru, “Cymru Iachach”, ond rydym yn bryderus iawn fod egwyddorion allweddol Gofal Iechyd Darbodus mewn peryg o gael eu hanghofio yn y broses gyfredol o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl. Gadewch i mi esbonio os gwelwch yn dda…

Fely gwledydd eraill yn y byd datblygedig, mae Cymru wedi profi diddordeb cynyddol mewn iechyd meddwl ymhlith y cyhoedd, ac yn enwedig pobl ifanc. Mae hyn i’w groesawu am ein bod am weld pawb yn cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl a sut ydym yn medru helpu ein hunain ac eraill i gadw’n iach.   

Fodd bynnag, mae hyn wedi arwain at ganlyniadau negatif hefyd. Mae yna duedd gynyddol ymhlith pobl i ystyried pryder a thristwch sydd yn deillio o golled, ansicrwydd a phroblemau go iawn bywyd fel rhywbeth  afiechyd meddwl – mae hyn yn wrthgynhyrchiol, ac yn portreadu fel rhywbeth patholegol y pethau da, ac nid mor dda, sydd yn rhan o fywyd bob dydd. At hyn, pan mae iechyd meddwl pobl o dan straen go iawn, mae yna duedd gynyddol ymhlith pobl i chwilio am wasanaethau arbenigol er mwyn gofyn am help yn hytrach na’n ceisio defnyddio eu hadnoddau eu hunain yn gyntaf, teulu a ffrindiau, neu’n gofyn am help gan ysgolion, cyflogwyr ac eraill. A phan fydd pobl yn mynd at Feddygon Teulu, maent weithiau yn cael cynnig triniaeth pan mai’r hyn sydd angen arnynt  yw help gyda phroblemau ymarferol sydd yn rhan naturiol o fywyd.  

O ganlyniad, mae yna gynnydd sylweddol yn y baich ar Feddygon Teulu ac mewn atgyfeiriadau at wasanaethau arbenigol, yn enwedig ymhlith pobl ifanc – mae ffigyrau  a gyhoeddwyd yn 2014 yn dangos fod y nifer o atgyfeiriadau at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi dyblu mewn pedair blynedd yn unig. Nid yw hyn o ganlyniad i gynnydd mewn problemau iechyd meddwl (nid oes unrhyw dystiolaeth yn awgrymu hyn): yn wir, nid oes epidemig o afiechyd meddwl  ond mae yna epidemig o or-atgyfeiriadau ac (yn waeth na dim) triniaeth amhriodol a niweidiol. Mae dwy enghraifft amlwg ymhlith llawer o rai eraill:

  • Mae Cymru wedi profi cynnydd o 68% yn y nifer o bresgripsiynau ar gyfer cyffuriau gwrthiselyddion mewn  15 mlynedd: fel i ni ganfod eleni yn ein hymgyrch #GweithreduNidGeiriau a oedd yn hyrwyddo iechyd meddwl ymhlith menywod, mae’r cyffuriau yma yn aml yn cael eu defnyddio yn hytrach na rhoi help go iawn i ddelio gyda thlodi, diweithdra a pherthnasau sydd yn eu tanseilio: mae’r gwastraff hwn o ran adnoddau yn fater bach o gymharu gyda’r sgandal o feddyginiaethu pobl – llawer ohonynt yn fenywod – yn hytrach na rhoi’r help ymarferol iddynt sydd angen.  
  • Tan ychydig o flynyddoedd yn ôl, roeddem oll wedi ein synnu gan y sgandal o or-ddefnyddio cyffuriau ar blant yn yr U.D.A. er mwyn mynd i’r afael gyda phroblemau ymddygiadol. Erbyn heddiw, dyma’r drefn yng Nghymru fel ym mhobman arall yn y DU, yn hytrach na’n defnyddio cyffuriau fel eithriad. Dywedodd  Dr Tony Lloyd o’r Sefydliad ADHD “Mae’n ffaith erbyn hyn mai meddyginiaeth, yn y DU, yw’r driniaeth gyntaf a dyma’r unig driniaeth mewn gwirionedd.” Ac felly, mae plant “anodd” yn cael eu meddyginiaethu er mwyn eu gwneud yn fwy hawdd i rieni ac athrawon eu rheoli, a dylai’r arfer hon ein synnu ond dyma’r drefn arferol erbyn hyn. 

Mae dibynnu ar driniaethau iechyd meddwl fel yr unig opsiwn yn anfoesol hefyd gan ei fod yn gostus. Mae’n arwain at gyfaddawdu – mewn modd peryglus –  y gofal a’r driniaeth ar gyfer pobl sydd angen gofal arbenigol. Mae  rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i bobl ifanc mor hir fel bod pobl ag afiechyd meddwl difrifol mewn  risg difrifol (mae ffigyrau a gyhoeddwyd yn Nhachwedd 2017 yn dangos mai ond 45% o atgyfeiriadau at CAMHS a oedd wedi gweld arbenigwr o fewn mis). Rydym felly wedi creu sefyllfa lle y mae llawer o bobl yn cael eu trin yn amhriodol, ac nid yw rhai yn derbyn y driniaeth sydd wir angen arnynt.  

Rydym yn awgrymu bod angen ystyried eto’r egwyddorion cyntaf sydd yn ymwneud ag iechyd meddwl, ac mae yna gyfle i wneud hyn pan fydd y Strategaeth Gyda’n Gilydd ar gyfer Iechyd Meddwl yn cael ei disodli yn y  blynyddoedd nesaf. Un gwaddol bosib i chi fel Prif Weinidog yw gofyn am strategaeth newydd er mwyn mynd i’r fael eto gyda’r cydbwysedd hwn – trin y rhai hynny sydd â’r angen mwyaf yn gyntaf a chyfyngu gwasanaethau iechyd meddwl i driniaethau sydd yn seiliedig ar dystiolaeth a phroblemau iechyd meddwl sydd wedi derbyn diagnosis cywir. At hyn, mae yna angen ar gyfer cyngor iechyd meddwl cyhoeddus diwygiedig am realiti afiechyd meddwl, gan ei gwneud hi’n gwbl eglur bod pobl sydd yn profi afiechyd meddwl yn medru derbyn yr help gorau yn aml drwy gymorth cyrff na sydd yn arbenigwyr, fel ysgolion a chyflogwyr sydd yn meddu ar gyfrifoldebau bugeiliol.  

Comisiynu gwasanaethau moesol a chost-effeithiol

Rydym wedi nodi eich addewidion diweddar ar  sicrhau defnydd moesol o gyllid cyhoeddus ar gyfer gwasanaethau sydd wedi eu comisiynu a’ch ymrwymiad i “wella statws y proffesiwn caffael” gyda phwyslais ar gaffael moesol a darparu canlyniadau gwerth gorau – ac rydym yn croesawu eich ffocws ar y mater pwysig hwn.   

Awgryma ymchwiliad gan The Times ym mis Tachwedd eleni bod cwmnïau yn codi tâl o filiynau o bunnoedd ar y GIG am ofal sydd yn cael ei roi i gleifion mewnol sydd ‘weithiau yn is na’r safon a ddisgwylir’. Darganfu’r ymchwiliad bod cleifion weithiau yn cael eu cadw yn yr ysbyty yn erbyn eu hewyllys, ac am sawl blwyddyn, mewn unedau na sydd yn cyrraedd y safonau angenrheidiol.

Yn ôl Syr Stephen Bubb, a oedd wedi cynnal yr ymholiad ar ôl achos yn Ysbyty Winterbourne View yn 2011 lle darganfuwyd bod staff yn cam-drin cleifion: “Mae’n wirioneddol arswydus bod darparwyr preifat yn manteisio yn ariannol ar ofal annigonol, gan dalu eu hunain yn hael o’r arian gan ein GIG. Dylai’r sefydliadau yma fod yn cau, nid ehangu. Mae elwa’n ariannol o’n dinasyddion mwyaf bregus yn ddi-chwaeth.”

Fel y gwyddoch, mae GIG Cymru dal yn gwneud defnydd helaeth o ddarpariaeth iechyd meddwl breifat i gleifion mewnol, gyda llawer o’r ddarpariaeth wedi ei lleoli yn Lloegr – a ffordd hir o’u cartrefi i gleifion ac yn sicr nid dyma’r ffordd orau i wneud defnydd o’r “bunt Gymreig”. Rydym wir yn gobeithio y byddwch yn dod â’n cleifion adref ac i’r GIG neu’r gwasanaethau nid-er-elw.   

 

Felly, pob dymuniad da i chi yn eich rôl newydd; rydym yn eich parchu a’n llawn gobaith ac yn barod i’ch cynorthwyo i wasanaethu pobl Cymru, yn enwedig y rhai hynny sydd yn fwyaf bregus ac angen ein cymorth.

Cofion gorau

Alun Thomas, Prif Weithredwr, Hafal