Fideo ffantastig gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn  dangos digwyddiad ‘Caffael ar y Corfforol’ Cymru

Daeth Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe i ddangos eu cefnogaeth i Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol De Cymru Hafal ar 6ed Medi.

Roedd arwyr yr Elyrch, Leon Britton a Lee Trundle, ynghyd â Yan Dhanda sydd newydd arwyddo gyda’r clwb a chwaraewyr a hyfforddwyr o’r tîm Dan 23 wedi dod draw i’r digwyddiad, gyda llawer yn cymryd rhan yn y digwyddiadau ac yn cwrdd â’r defnyddwyr gwasanaeth a’r gofalwyr.

Roedd tîm cyfryngau Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe wedi dod draw i bentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe ac wedi creu fideo ffantastig o’r diwrnod, yn cyfweld  Trundle, Britton, Dhanda a Phrif Weithredwr Hafal Alun Thomas am bwysigrwydd iechyd corfforol i bobl sydd wedi eu heffeithio gan afiechyd meddwl.

Gwyliwch y fideo yma.