Cyfweliad: Sharon Jones, Dirprwy Brif Weithredwr Hafal, yn trafod #GweithreduNidGeiriau

Roedd menywod wedi ennill yr hawl i bleidleisio can mlynedd yn ôl ar ôl ymgyrchu a gweithredu yn uniongyrchol, gan alw am ‘Gweithredu Nid Geiriau’. Yr haf hwn, mae Hafal yn dathlu’r canmlwyddiant hwn  gydag ymgyrch newydd ar y rhengflaen i fenywod – yr hawl i fwynhau iechyd meddwl a lles. 

Roedd Dirprwy Brif Weithredwr Hafal, Sharon Jones, sydd yn rhan o’r panel sydd yn arwain yr ymgyrch, wedi rhannu ei barn ar y materion sydd yn wynebu menywod  â phroblemau iechyd meddwl heddiw, 100 mlynedd ar ôl i fenywod ennill yr hawl i bleidleisio.

 

Can mlynedd wedi ennill yr hawl i bleidleisio, a ydych chi yn credu eich bod wedi cyflawni cydraddoldeb rhywiol?

Dim eto. Ond rydym yn symud yn y cyfeiriad cywir – er bach yn araf. Rydym yn gweld straeon newyddion yn rhy aml o lawer am fenywod llwyddiannus ym myd busnes ac mae’ erthygl yn ffocysu ar sut y maent wedi llwyddo i gyfuno bywyd teuluol gyda rheoli busnes – nid ydym yn sôn am hyn wrth drafod dynion. Menywod yw’r rhan fwyaf o ofalwyr, ac mae’r cyfleoedd sydd yn cael eu rhoi i fenywod yn cael eu cyfyngu gan ddiffyg polisïau  sydd yn rhoi ystyriaeth i anghenion teuluoedd. Fel Dirprwy Brif Weithredwr  Hafal, rwyf yn falch iawn o’r hyn yr ydym yn cynnig yma yn Hafal ond ni fyddwn yn llaesu dwylo.

 

Beth yw’r prif faterion iechyd meddwl sydd yn wynebu menywod heddiw?

Mae ein hymgyrch yn amlygu nifer o’r materion hyn. Un sydd yn dod i’r cof yw iechyd meddwl amenedigol, a hynny o bersbectif y fam a’r baban. Rydym yn dysgu am sut y mae  profiadau adweithiol fel plentyn yn effeithio ar bobl yn hwyrach mewn bywyd, ond os ydym yn cefnogi mamau sydd yn cael trafferthion, yna rydym yn  gwella ansawdd bywyd y fam – tra hefyd yn diogelu cenedlaethau’r dyfodol.

 

Pam ydych yn credu bod angen ymgyrch #GNG?

Rhan o’r broblem yw ein bod yn cymryd yn ganiataol bod gwasanaethau iechyd meddwl yn seiliedig ar gydraddoldeb, ond pan eich bod yn ystyried y gwasanaethau yma sydd o dan y pwysau mwyaf e.e. gwasanaethau amenedigol neu iechyd meddwl, maent yn cael effaith anghymesur ar fenywod ac mae’n adeg briodol nawr i Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth am hyn drwy roi adnoddau yn y llefydd hynny sydd eu hsngen.

 

Beth ydych am gyflawni fel rhan o’r ymgyrch hon?

Drwy godi proffil y problemau yma a sbarduno sgwrs, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cynyddu’r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ar iechyd meddwl i fenywod.  Pan fydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar rywbeth, mae’n amlwg yn medru gwneud gwahaniaeth, ac felly, rydym yn galw ar y Llywodraeth i wneud gwahaniaeth i fenywod.  Rydym am weld yr ymgyrch hefyd yn gwneud gwahaniaeth i’n bywydau ni. Fel menywod, rydym yn cymryd camau ein hunain ac yn gwneud newidiadau er mwyn gwella ein hiechyd meddwl ein hunain – ac estyn allan i fenywod eraill sydd yn wynebu trafferthion iechyd meddwl neu ofalu.

 

Pa newidiadau hoffech chi weld yn y modd y mae menywod yn cael eu trin neu’r modd y mae pobl yn meddwl amdanynt?

Rydym dal yn dibynnu’n ormodol ar fenywod yng Nghymru i fod yn ofalwyr cynradd i blant ac aelodau  teulu sydd ag anabledd; mae angen cydnabyddiaeth o’r gwerth a gynigir gan y rôl gofalu a dylid rhoi cymorth go iawn fel nad oes rhaid i fenywod ddewis  rhwng y naill beth neu’r llall – naill ai bod yn ofalwr neu fwynhau gyrfa lwyddiannus. Mae rhai menywod yn llwyddo i gyfuno’r ddau beth ond ni ddylid cymryd yn ganiataol mai cyfrifoldeb menyw yw hyn ac ni ddylai fod mor anodd i fenyw i lwyddo.

 

Pa fenywod sydd wedi eich ysbrydoli chi a pham?

Yr un fenyw sydd yn pontio tair cenhedlaeth yn fy nheulu. Ganwyd fy Mam ar adeg pan oedd cyfleoedd wedi eu cyfyngu’n sylweddol i fenywod. Fe’i danfonwyd i weini yn Llundain yn 14 mlwydd oed er mwyn helpu i gefnogi ei mam a oedd yn weddw a’i brodyr a’i chwiorydd. Roedd wedi chwarae rôl gryf  yn ei chymuned leol, yn amrywio o gefnogi’r rhai hynny mewn trafferth drwy gynnig help ymarferol i fod yn rhan o wleidyddiaeth leol, cefnogi agenda lle y byddai ei merched yn cael mwy o gyfleoedd na roddwyd iddi hi.

Yna, rydym yn dod drwy’r cenedlaethau at fy Merch sydd yn cynnig  cartref clyd, normal i’w phlant tra hefyd yn gofalu am ei merch fach 4 mlwydd oed sydd wedi cael nifer o lawdriniaethau yn ystod ei hoes. Mae fy merch yn bositif drwy’r amser, ac er y pwysau sydd arni, mae’n creu amser i godi arian i elusennau  sydd yn cefnogi plant fel ei merch hithau.

 

Bydd yr ymgyrch #GNG yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf a Medi 2018 ac yn cynnwys 22 digwyddiad ym mhob un sir yng Nghymru. Dilynwch ein hymgyrch ar ein tudalennau Facebook Twitter neu ewch i: http://www.hafal.org/deedsnotwords/